top of page

Hanes Cwmcerwyn (a history of Cwmcerwyn)

  • Writer: Alexander Velky
    Alexander Velky
  • Sep 6
  • 7 min read

ree

At the risk of repeating a post already copied to this blog from one of my old ones (it's still available here)...


Dyma'r hanes bach amdan hen ffermdy Cwmcerwyn ym mhlwyf Mynachlgddu, wedi paratoi am taith hanesyddol i codi arian am yr Eisteddfod y Garreg Las (2026):



Hanes Cwmcerwyn (a history of Cwmcerwyn)


Un o’r ffermdai uchaf yn Sir Benfro oedd Cwmcerwyn. Ac un o’r adeailadau hynaf ym mhlwyf Mynachlogddu. Roedd yn eistedd ar banc dwyrain Afon Wern, sydd yn codi mewn waundir gwlyb ar ochr dwyrain Foel Cwmcerwyn.  Mae’n teimlio tipyn od i enwi mynydd ar ôl cwm; ond dyma ni. Cerwyn oedd enw y cwm, felly Cwmcerwyn oedd enw y fferm, a Foel Cwmcerwyn (weithiau “Preseli Top” yn y gorffennol, yn Saesneg) oedd enw y mynydd. Yn ôl hanes Culhwch ac Olwen yn y Mabinogion, Cwmcerwyn yw’r fan lle lladdodd y Twrch Trwyth wyth o farchogion y Brenin Arthur. Felly mae’n debyg bod yr enw “Cwmcerwyn” dros fil o flynyddoedd oed.


[Cwmcerwyn was one of the highest farmhouses in Pembrokeshire, and one of the oldest buildings in Mynachlogddu parish; situated beside Afon Wern, which springs from Foel Cwmcerwyn (historically called “Preseli Top” in English). It seems odd that the mountain is named after the valley (“cwm”). Mentioned in the Mabinogion as the site where a mythical boar killed 8 of King Arthur’s knights, Cwmcerwyn’s name is probably over a thousand years old.]


Gall y gair “Cerwyn” olygu sawl peth (fel llestr, twb, casgen, baril…). Yn oes y Frenhines Elisabeth y Cyntaf, ysgrifennydd awdur George Owen o Henllys fod Gwyddelod [Irish] yn byw yn yr ardal yn y dyddiau hynny ac yn distylli wisgi mewn “cerwyn” mawr i’w gwerthu o ddrws i ddrws. Felly, mae’n bosib bod hwnna i’r tarddiad [origin] yr enw; hefyd, yn ôl Hefin Wyn yn ei lyfr amdan Twm Carnabwth, mae Joseph Babington Macauley wedi cyfieithu’r enw i’r Saesneg fel “hollow of the wash-tub” ac wedi awgrymu bod “cerwyn” yn dod o’r Lladin “cervus”, sy’n golygu “garw” neu “rough”. Mwy na thebyg bod siap y mynyddoedd o’n cwmpas i’r ystyr: mae’n teimlo tipyn fel bod yng ngwaelod powlen neu twb yma.


[“Cerwyn” could be a dish, tub, cask or tun. Elizabethan author George Owen of Henllys noted Irish residents in the valley, distilling whiskey (in a “cerwyn”?) and selling it door-to-door. Hefin Wyn (in his recent book on Twm Carnabwth) notes Joseph Babington Macauley’s translation of Cwmcerwyn as “hollow of the wash-tub” and a suggestion “cerwyn” derives from the Latin “cervus” meaning “rough”. The shape of the valley is surely the likeliest source of its name.]


Mae hen chwedl yn yr ardal hefyd bod y bobl leol yn gyfoethog iawn yn y gorffennol ond do’n nhw ddim eisio pobl eraill i gwybod; felly penderfynon nhw gladdu eu trysor mewn cerwyn, rhywle yn y cwm. Yn anffodus, does neb wedi ffeindio’r trysor; felly ’dyn ni ddim yn gwybod os mae’r stori’n wir.


[A folk tale suggests wealthy locals buried their treasure in a “cerwyn” somewhere in the valley, as a precaution. But no proof is forthcoming.]


Erbyn y ddeuddegfed ganrif, roedd Cwmcerwyn wedi’i roi fel rhan o Fynachlogddu (“Nigra Grangia” yn Lladin) i’r abaty Normanaidd yn Llandudoch. Ar ôl Diddymu’r Mynachlogydd [Dissolution of the Monasteries] gan Henry Yr Wythfed, caewyd yr abaty yn Llandudoch, a gwerthwyd ei dir i dyn o’r enw John Bradshaw. Ar ôl hynny, cafodd Cwmcerwyn ei brynu a’i werthu gan ddynion busnes, a’i ffermio (fel o’r blaen) gan denantiaid.


[In the 12th century Cwmcerwyn (with Mynachlogddu; Latin: “Nigra Grangia”; black monastic grange) was gifted by conquering Norman lords to St Dogmael’s Abbey. After Henry VIII’s Dissolution of the Monasteries, the land was bought by John Bradshaw; whereafter it was traded between absentee landlords and farmed (as before) by tenants.]


Yr enw cyntaf ‘dyn ni’n gwybod am denant yng Nghwmcerwyn yw David ap Rhys ap Owen yn y flwyddyn 1535; yn ôl Yvonne Evans (mewn llyfr hanes lleol “O’r Witwg i’r Wern”) talodd deg swllt o rent i’r Abaty. Erbyn diwedd yr ail ganrif ar bymtheg, roedd Griffith Morris (“gentleman”) yn ffermio yna. Bedyddiwr oedd e, yn gweinidog [minister] o Capel newydd Rhydwilym. (Doedd dim capel ar gael ym Mynachlogddu eto; dim ond yr eglwys.) Erbyn 1786 roedd “James Bowen Esq” yn berchen ar y ty, gyda John Griffith fel tenant. Ar pumed o Ebrill, 1817, Cafodd dyn o enw Daniel Owen o Cwmcerwyn ei fedyddio, ac ar degfed ar hugain o Ionawr, 1833, fe’i hordeiniwyd yn weinidog Bedyddwyr Capel Horeb yn Pope Hill, Hwlffordd. Yn ystod Deddfau Cau Tir Maenclochog [Inclosure Act] yn 1815, ychwanegwyd y tir comin yn Waun Clyn Côch at fferm Cwmcerwyn, tuag 76 erw, gan ddod â chyfanswm y tir yng Nghwmcerwyn i ychydig o dan 300.


[The earliest recorded tenant is David ap Rhys ap Owen, 1535; according to Yvonne Evans (writing in a local history book “O’r Witwg i’r Wern”) he paid ten shillings’ rent. In the late 17th century, Griffith Morris (“gentleman”) was the farmer; he was also a minister at Rhydwilym baptist chapel (there wasn’t one in Mynachlogddu yet; just the Anglican parish church). By 1786 “James Bowen Esq” owned the house, with John Griffith as tenant. On April 5th 1817, Daniel Owen of Cwmcerwyn was baptized; and on January 30th 1833 he was ordained as a minister at Horeb chapel, Pope Hill, Haverfordwest. After the Maenclochog Inclosure Act 1815, 76 acres of Waun Clyn Coch common was incorporated into Cwmcerwyn, bringing its total acreage to almost 300.]


Dechreuodd y cofnodion cyfrifiad [census records] yn 1841, a gyda nhw daeth llawer mwy o wybodaeth am fywyd gwledig ledled y wlad. Am y hanner canrif nesaf roedd teulu Llewellyn yn byw yng Nghwmcerwyn a ffermio’r tir o’i gwmpas. Yn anarferol am yr amser a’r lle, roedden nhw’n llythrennog, ac ysgrifennon nhw eu henwau yn eu priodas. Roedd James a’i wraig Mary (pedwar deg, y ddau) yna yn 1841, gyda’u plant: Ann, Elizabeth, Sara, John, Thomas a William (rhwng 16 ac 1 oed). Roedd mab o enw Charles gyda nhw hefyd, yn gweithio fel morwr, ond bu farw yn 1843 yn 21 oed. Saesneg oedd iaith aelwyd teulu Llewellyn, achos symudon nhw i’r ardal o Nolton, yn ne-orllewin Sir Benfro. Roedd James yn warden yn yr eglwys Sant Dogfael yn ne y plwyf am sbel. Ond, claddwyd eu mab morwr ar dir Capel Bethel. Ysgrifennodd James Llewhelin yn ei ewyllys yn 1848:


[The census records from 1841 show the Llewellyn family from Nolton (SW Pembrokeshire) at Cwmcerwyn. Unusually for the time, they were literate and thus signed their names on their marriage certificate. James and Mary lived with children Ann, Elizabeth, Sara, John, Thomas and William (aged between 1 and 16). Another son, a sailor called Charles, 21, died in 1843. English was the family’s hearth language and James was a warden at St Dogmael’s church for a while; but they buried their son beside Bethel baptist chapel. From James’s will, written in 1848:]


“…to my beloved wife Mary Llewellyn [I give] all that I do now possess as long as she do continue a widow, but should she again marry, my aforesaid is to give to each of my seven children the sum of twelve pounds on or before her second marriage. … my wife and my son Thomas Llewellyn to be joint executors.”


Erbyn 1851 mae Mary Llewellyn yn “gweddw”, “ffermwraig” a “phen” o Cwmcerwyn. Mae chwech o’i phlant dal yna (heblaw Ann, sy wedi priodi a symud mas) a mae bachgen o enw William Owen o Llanglydwen yn byw gyda nhw fel gwas fferm [servant]. Deg mlynedd ymlaen, mae Mary dal yna yn ffermio dau gant ac ugain erw gyda tri o’i phlant, dau labrwr, a tri gwas ty hefyd. Mae rhai o’i theulu erbyn hyn yn ffermio draw yn Plasdwbl, Mynachlogddu, a Phengraig, Cilymaenllwyd, hefyd.


[By 1851 Mary is a “widow”, “farmer” and “head” of Cwmcerwyn. 6 of her children are still with her (Ann has married and moved out). William Owen of Llangolman is their farm servant. 10 years later 3 of her children remain (alongside 2 labourers and 3 house-servants) with others having moved to nearby farms at Plasdwbl and Pengraig.]


Roedd Mary Llewellyn wedi marw erbyn 1881, a roedd ei mab William wedi cymryd dros y fferm. Roedd undeg tri o bobl o leiaf yn byw ac yn gweithio yng Nghwmcerwyn yn y dyddiau hynny. Dros y blynyddoedd, bydd plant ac wyrion Mary Llewellyn yn cyfrannu’n sylweddol at boblogaeth yr ardal. Nid yw’n anodd cwrdd â phobl yn lleol sy’n gallu olrhain eu llinach i’r Llewellyns Cwmcerwyn. Symydon nhw mas, pell ac agos, i Llangolman, Rudbaxton, Tydrath, Northampton, America, ac Awstralia.


[By 1881, Mary was dead and her son William was head of Cwmcerwyn farm. At least 13 people were living and working there. Mary’s many children and grandchildren would contribute significantly to the local population. It’s not difficult to meet locals who can trace their ancestry to the Cwmcerwyn Llewellyns. Their descendants ended up in Llangolman, Rudbaxton, Newport, Northampton, America and Australia.]


Ar droad y ganrif mae teulu gwahanol wedi symud i mewn, ond nid o bell. Mae David Harries a’i wraig Anne yna gyda tri plant: Daniel, Lizzie a Morris. Roedd dau arall wedi ymuno erbyn 1911: Martha Ann a William Albert; Nhw fyddai trigolion olaf y ffermdy yn y tridegau. Newidiodd llawer o bethau, ac yn gyflym, ddechrau’r ugeinfed ganrif. Ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf roedd sawl tŷ ar y llethrau o gwmpas Cwmcerwyn: Cwm Garw, Bwlch Giden, Tynewydd, Clyn Côch… Ond erbyn yr Ail Rhyfel y Byd, roedd Martha ac Albert wedi symud mas, a dinistriodd milwyr y ffermdy, yn ddefnyddio’r adeilad fel ymarfer targed, un prynhawn Sul. A fel ’na daeth stori Cwmcerwyn i ben.


[By the 20th century a new family had moved in, but not from far: David and Anne Harries with 3 children: Daniel, Lizzie and Morris. 2 more had arrived by 1911: Martha Ann and William Albert. They would be the farmhouse’s last inhabitants. Things changed quickly at that time: by the late 19th century there were several houses on the slopes around Cwmcerwyn: Cwm Garw, Bwlch Giden, Tynewydd, Clyn Coch… but by the Second World War, Martha and Albert had moved out; and the farmhouse was used for target practice by soldiers one Sunday afternoon and destroyed in the process. Thus, Cwmcerwyn’s story ended.]


A Velky, Sept 2025


 
 
 

Comments


bottom of page